Wythnos Hanner Tymor

Bu’r cynulliad ar gau ar gyfer hanner tymor, ond dydy hynny ddim yn golygu bod y gwaith caled wedi peidio! Dwi wedi bod allan yn siarad gyda bobl Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac yn trafod y pethau sydd wir yn eu poeni. Mae’n amlwg bod cynlluniau y Blaid Lafur i breifateiddio’r sector gofal wir yn bryder mawr i bobl, ac mi fydd y cynllun yn effeithio ar nifer yn yr etholaeth. Mae bron bob person yn y gymuned naill ai yn derbyn cymorth gan ofalwyr neu yn adnabod rhywun sydd wedi neu yn ei dderbyn. Dwi wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Undebau a’r gweithwyr ac wedi trafod gyda nifer o etholwyr sy’n derbyn gofal, sut y bydd y newidiadau yn effeithio arnynt. Fe fyddaf yn dal i wrthwynebu y cynlluniau, gan obeithio bydd y Cyngor Sir yn sylweddoli faint mor gryf mae bobl yr ardal yn teimlo am y mater. Mae’r arolwg barn yn lwyddiant ysgubol ac mae y nifer o lofnodion yn profi faint o wrthwynebiad sydd i’r cynlluniau. Os oes unrhywun ohonoch eisiau rhoi cefnogaeth i’r ymgyrch, yna cysylltwch gyda’r swyddfa. 

News Releases