Wednesday, November 22nd, 2006
Tachwedd 22
Bu llu o gefnogwyr ysbytai cymunedol yn y Cynulliad. Galwyd am ymateb gan y llywodraeth ond yn ofer. Er bod y Prif Weinidog yn hapus i fod ar gael i dynnu ei lun ar gyfer cyhoeddusrwydd ar un ochr i’r gwydr nid oedd yn barod i fentro y tu draw i wynebu pobl a ddaeth i’w lobio yn y Cynulliad. Un o gryfderau y Cynulliad yw y ffaith bod aelodau ar gael i’r cyhoedd ond bydd y bobl a ddaeth i’r Cynullid heddiw yn dra siomedig nad oedd y llywodraeth yn barod i’w cyfarfod. Arwydd arall bod y llywodraeth Llafur yn encilio ac yn ymwrthod a’r cyfrifoldeb i wynebu y cyhoedd. Llais y bobl yn cael ei anwybydu.
Ar lefel lleol. Cefais y cyfle i godi sefyllfa Cartref Anedd yn Llanybydder. Erbyn hyn mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ildio a chytuno i gadw’r cartref ar agor hyd nes bod yr uned newydd ar agor. Yn bwysicach mae’r Cyngor yn mynd i sicrhau bod ystafelloedd ar gael ar gyfer gofal gorffwys. Llais y bobl yn gorchfygu.
Cyhoeddwyd heddiw bod Tywysog Charles wedi arwyddo cytundeb i brynnu cartref yng Nghymru ac yn bwysicach yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Cefais gyfle i’w groesawu i’r etholaeth. Ni fum erioed yn weriniaethwr brwd er nad oedd gennyf fawr o olwg ar y frenhiniaeth. Ond o graffu ar y gwaith a gyflawnir gan y Tywysog rhaid cydnabod ei fod yn defnyddio ei swydd i gyflawni llawer iawn o wasanaeth cymunedol pwysig iawn ac i wneud datganiadau adeiladol. Mae’n lais ar ran y bobl.
Cefais gyfle i godi cwestiwn i’r Gweinidog Diwylliant am gynhyrchiadau Hijynx. Mae’r cwmni drama proffesiynol yma yn cynnig cyfle i bobl ag anghenion arbennig i gymryd rhan mewn cynhyrchiadau ar lwyfanau led led Cymru. Dyma enghraifft perffaith o roi llais i bobl.
Trafodaethau am golli swyddi yn Abertawe a aelodau o bob plaid yn mynegi pryder. Os yw pobl yn feirniadol o’r Cynulliad mae o leiaf yn rhoi cyfle i aelodau i godi llais dros bobl
News Releases
- Tue May 1 2012
Plaid Cymru – Action to protect Welsh Dairy Industry is overdue - Wed April 25 2012
Politicians shell-shocked by military testing site response - Tue February 21 2012
Plaid Cymru politicians take lead in defending local newspapers - Wed February 1 2012
Records reveal Labour’s PFI blunder - Thu January 26 2012
The Labour party should Stand Up, Front Up and accept they got it wrong on PFI - Tue January 17 2012
Jonathan Edwards MP, Rhodri Glyn Thomas AM support calls to devolve broadcasting powers to Wales - Wed January 11 2012
Journal Column – 11th January 2012 - Tue January 10 2012
Plaid Cymru attacks County Council’s publicly funded electioneering - Mon January 9 2012
Assembly Member calls for flexibility in Heating Oil market - Sun January 8 2012
Plaid politicians blast inflation-busting car park charges – again - Wed December 21 2011
Assembly Member takes to the road for Meals on Wheels delivery - Thu December 15 2011
European Commission could boost Wales’ infrastructure - Wed December 14 2011
Journal Column – 14th December - Mon December 12 2011
Assembly Member backs campaign to make schools accessible to deaf children - Mon December 12 2011
‘First Class Postal Service in Carmarthenshire’ - Fri December 9 2011
Plaid Assembly Members meet with Palestinian Ambassador - Tue December 6 2011
Labour/Lib Dem Budget is irresponsible and will cost jobs - Wed November 30 2011
Rhodri speaks at Carmarthen Rally - Wed November 30 2011
Journal Column - Wed November 23 2011
Journal Column – 23rd November - News Release Archive -> ->