Wednesday, March 14th, 2007
Danso
Dyma gwestiynau ac atebion o’r Senedd ynglŷn â’r sefyllfa gyda Dansco
—————————————————————————————————-
C3 Rhodri Glyn Thomas: Pa drafodaethau mae’r Llywodraeth wedi eu cynnal parthed dyfodol y diwydiant llaeth? OAQ2399(FM)
Y Prif Weinidog: Yr ydym yn gweithio gyda’r Cyngor Datblygu Llaeth a grwp strategaeth y diwydiant llaeth, o dan ymbarél y bartneriaeth bwyd-amaeth, er mwyn gweithredu’r cynllun gweithredu strategol drafft ar gyfer y diwydiant llaeth yng Nghymru. Daw cyfnod ymgynghori y cynllun drafft hwnnw i ben ddiwedd y mis.
Rhodri Glyn Thomas: Tybiaf y byddai strategaeth ar ddyfodol y diwydiant llaeth yn nodi pwysigrwydd cadw canolfannau prosesu yng nghanol y maes llaeth. Gobeithiaf y byddwch yn cytuno bod maes llaeth y de orllewin yn eithriadol o bwysig, nid yn unig yng nghyd-destun Cymru, ond yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig hefyd.
Gwyddoch fod pryder mawr ynglyn â dyfodol ffatri Dansco. Mae dros 100 o ffermwyr wedi bod yn cyflenwi llaeth i’r ffatri ac mae 130 o bobl yn gweithio yno; mae’n ganolfan hynod lewyrchus ond ar hyn o bryd mae’n wynebu problemau enfawr.
Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ymyrryd yn y sefyllfa honno i sicrhau dyfodol ffatri Dansco ac i sicrhau nad ydym yn colli canolfan brosesu arall o’r maes llaeth yn y de-orllewin?
Y Prif Weinidog: Cytunaf fod y tair sir yn Nyfed—Ceredigion, sir Benfro a sir Gâr—yn hollbwysig, oherwydd eu tirwedd a’u tywydd, i’r diwydiant llaeth. Yn dilyn problemau’r ffatri gaws a’r ffatri bacio yn Nyffryn Aeron hefyd, mae problemau wedi codi ynghylch taliadau i ffermwyr o ran ffatri Dansco, sy’n cynhyrchu caws mozzarella i gwmnïau sy’n gwneud pizzas. Fodd bynnag, yr hyn sy’n bwysig yw bod Carwyn Jones wedi cyfarfod â chynrychiolwyr ar ddwy ochr y ffrae i drafod taliadau ac yn y blaen, ac i sicrhau, os oes modd, ein bod yn gallu eu hannog i gyrraedd cytundeb fel bod y cyflenwad llaeth, y ffatri a thaliadau i ffermwyr oll yn parhau.
News Releases
- Tue May 1 2012
Plaid Cymru – Action to protect Welsh Dairy Industry is overdue - Wed April 25 2012
Politicians shell-shocked by military testing site response - Tue February 21 2012
Plaid Cymru politicians take lead in defending local newspapers - Wed February 1 2012
Records reveal Labour’s PFI blunder - Thu January 26 2012
The Labour party should Stand Up, Front Up and accept they got it wrong on PFI - Tue January 17 2012
Jonathan Edwards MP, Rhodri Glyn Thomas AM support calls to devolve broadcasting powers to Wales - Wed January 11 2012
Journal Column – 11th January 2012 - Tue January 10 2012
Plaid Cymru attacks County Council’s publicly funded electioneering - Mon January 9 2012
Assembly Member calls for flexibility in Heating Oil market - Sun January 8 2012
Plaid politicians blast inflation-busting car park charges – again - Wed December 21 2011
Assembly Member takes to the road for Meals on Wheels delivery - Thu December 15 2011
European Commission could boost Wales’ infrastructure - Wed December 14 2011
Journal Column – 14th December - Mon December 12 2011
Assembly Member backs campaign to make schools accessible to deaf children - Mon December 12 2011
‘First Class Postal Service in Carmarthenshire’ - Fri December 9 2011
Plaid Assembly Members meet with Palestinian Ambassador - Tue December 6 2011
Labour/Lib Dem Budget is irresponsible and will cost jobs - Wed November 30 2011
Rhodri speaks at Carmarthen Rally - Wed November 30 2011
Journal Column - Wed November 23 2011
Journal Column – 23rd November - News Release Archive -> ->