Dadle Dansco

Dyma fy araith o ddadl Dansco yn y cynulliad. Yr oedd y ddadl yn bositif ac yn llwyddiant gan fy mod wedi sicrhau bod Carwyn Jones yn cwrdd â’r ffermwyr i drafod y dyfodol.

Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf yn falch o gael cynnal y ddadl hon ynghylch dyfodol Dansco yng Nghastellnewydd Emlyn. Fodd bynnag, mae’n drist fod rhaid i mi wneud hyn, oherwydd dylai dyfodol Dansco fod yn gwbl sicr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, yr oedd y cwmni hwn yn ennill gwobrau oherwydd ei lwyddiannau, am ei fod yn effeithiol a bod ei gyfundrefnau a’i strwythurau rheoli yn sicrhau ei fod yn gweithredu felly. Erbyn hyn, yn anffodus, mae’r stori yn dra gwahanol oherwydd ansicrwydd ynglyn â thaliadau i’r ffermwyr llaeth sy’n cyflenwi’r ffatri

Rhaid inni dalu teyrnged i’r cyflenwyr hynny gan y gwyddom oll fod y sector llaeth, o fewn y diwydiant amaethyddol, yn wynebu llawer o drafferthion ar hyn o bryd a bod ffermwyr llaeth yn ei chael yn anodd sicrhau elw ar ddiwedd blwyddyn ariannol. Fodd bynnag, mae’r ffermwyr hyn wedi dyfalbarhau gyda’r ffatri yng Nghastellnewydd Emlyn, er bod ansicrwydd ynglyn â’u taliadau a bod rhai ohonynt yn dal i ddisgwyl ail daliad mis Rhagfyr. Pe bai rhai o’r ffermwyr hynny yn colli dau daliad misol, gallai beryglu holl sefydlogrwydd eu busnesau. Maent wedi parhau i gyflenwi’r ffatri, er yr ansicrwydd, oherwydd eu bod yn credu yn y cwmni a’i gynnyrch ac am eu bod yn sylweddoli pa mor allweddol yw’r ffatri i economi dyffryn Teifi ac ardal Castellnewydd Emlyn.

Yn ogystal â’r cyflenwyr—mae rhyw 100 o ffermwyr yn cyflenwi llaeth i’r ffatri—mae 130 o bobl yn gweithio yn y ffatri honno. Byddai’n anodd inni sicrhau swyddi cyfatebol iddynt yn nyffryn Teifi a fyddai’n talu’r math o gyflogau sy’n cael eu talu yn y ffatri honno. Mae’n bwysig i’r economi.

Ond, mae cael canolfan brosesu yng nghanol maes llaeth y de-orllewin yn hynod bwysig, gan ei bod yn ychwanegu gwerth at y cynnyrch sylfaenol. Gallwn oll ddweud yn hollol sicr fod y cynnyrch sylfaenol, sef y llaeth, o’r ansawdd uchaf, ond ychwanegir gwerth ato yn y ganolfan hon sydd ar garreg y drws. Ar gyfartaledd, nid yw’r llaeth yn teithio mwy na 30 milltir i’r ffatri, ac mae pob math o resymau pam y byddai rhywun am barhau â’r sefyllfa honno. Yr ydym i gyd yn ymwybodol o oblygiadau newid hinsawdd—a chafwyd trafodaethau eithaf tanllyd ar hynny yn y Siambr—ac mae’r ffaith bod y llaeth yn teithio cyn lleied i gyrraedd y ffatri yn bwysig o ran hynny. Mae ychwanegu gwerth at gynnyrch sylfaenol yng nghanol y maes llaeth yn eithriadol o bwysig.

Nid oes raid imi atgoffa Aelodau o’r colledion a gafwyd o blith canolfannau prosesu y de-orllewin, yn sir Gaerfyrddin, yng Ngheredigion, ac yn sir Benfro. Yr ydym wedi colli nifer o ganolfannau prosesu eithriadol o bwysig, a byddai unrhyw fygythiad i ganolfan Dansco yn gosod pwysau ychwanegol ar sicrhau bod y maes llaeth eithriadol o bwysig hwn yn y de-orllewin yn parhau, ac yn parhau’n ffyniannus.

Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn cadw llygad ar y sefyllfa. Mae Elin Jones a minnau wedi cael mwy nag un cyfarfod â Carwyn Jones, ac mae’r Gweinidog a’i swyddogion yn gwybod am y problemau sy’n bodoli. Cynhaliwyd trafodaethau nid yn unig â’r cwmni, ond hefyd gyda’r grwp o ffermwyr a ddaeth ynghyd i gydweithio i sicrhau eu taliadau; gwerthfawrogaf y trafodaethau hynny yn fawr. Yr wyf hefyd yn ymwybodol o’r gefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr i sicrhau dyfodol Dansco yng Nghastellnewydd Emlyn—nid dim ond Elin Jones a minnau sydd wedi bod yn ymwneud â’r mater hwn; fe gafodd Elin Jones, Tamsin Dunwoody a minnau gyfarfod ddydd Llun â’r grwp ffermwyr sy’n cyflenwi’r ffatri. Yr wyf wedi caniatáu munud yn y ddadl hon felly i Elin Jones, Tamsin Dunwoody, Glyn Davies a Mick Bates, a gwnaf hynny yn hyderus bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r angen inni greu sefydlogrwydd o ran y sefyllfa sydd ohoni yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae’r cwmni hwn yn gwmni cynhenid broffidiol, a dylai ffatri Dansco fod yn gwneud elw sylweddol. Cyfeiriais yn gynharach at lwyddiannau’r gorffennol, at y gwobrau a enillodd y ffatri; mae marchnad i’w chynnyrch, ac mae ganddi gytundebau, gan gynnwys rhai newydd wedi’u sicrhau’n ddiweddar. Mae’r bobl a’r cwmnïau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r cytundebau hyn yn awyddus i barhau i weithio gyda ffatri Dansco. Yr unig beth sy’n peryglu dyfodol Dansco ar hyn o bryd yw’r ansefydlogrwydd a grëwyd o ran taliadau i’r cyflenwyr, ac mae hynny’n sefyllfa o bryder.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn ofalus wrth gyfeirio at gwmni preifat fel hyn, ond credaf fod digon o dystiolaeth erbyn hyn i ddangos bod gwendidau sylfaenol yn y ffordd y mae’r cwmni hwn yn cael ei weinyddu. Dyna lle mae’r gwendid ar hyn o bryd. Mae cynnyrch y cyflenwyr o safon uchel, ac maent yn effeithiol ac yn ddibynadwy. Mae gan y gweithlu sgiliau arbennig, ac mae wedi gwasanaethu’r cwmni yn ffyddlon dros nifer o flynyddoedd. Mae cytundebau yno, ac yn wir, mae tystiolaeth hefyd fod modd cynyddu nifer y cytundebau hynny; mae marchnad amlwg ar gyfer y cynnyrch hwn. Nid oes gwendidau yn yr elfennau hynny; mae’r gwendidau yn bodoli yn y ffordd y mae’r cwmni, sy’n rhan o grwp o gwmnïau, yn cael ei weinyddu’n fewnol

Gwn fod y cwmni wedi derbyn grant sylweddol ar gyfer prosesu a marchnata oddi wrth Lywodraeth Cymru. A all y Llywodraeth a’r Gweinidog wneud unrhyw beth o ran cynnal trafodaethau gyda’r cwmni hwn, edrych ar y strwythurau—y gweinyddu o fewn y cwmni—a cheisio cefnogi a chynnig cyngor iddo ynglyn â sicrhau bod y strwythurau hynny’n ddigonol i gynnal y cwmni? Mae’n siwr gennyf y byddai’r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai’n drasiedi pe bai ffatri mor lwyddiannus yn y gorffennol, gyda chynnyrch mor ddibynadwy ac o’r safon uchaf, o dan fygythiad am fod y gwendidau hyn yn bodoli.

Fel y dywedais eisoes, gwn fod y Gweinidog a’i swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda’r grwp o gyflenwyr. A all y Gweinidog gynnig cyngor i’r grwp hwnnw? Yr wyf eisoes wedi talu teyrnged i ffyddlondeb y cyflenwyr i’r cwmni, a chydnabod y ffaith eu bod yn ymddiried yn y cwmni ac yn gallu gweld gwerth y cwmni hwn o ran y maes llaeth ac o ran yr economi leol. Mae’n rhaid inni sylweddoli bod hwn yn gyfnod pryderus iddynt oherwydd yr ansicrwydd sy’n bodoli ynglyn â’u taliadau. A fedrwch chi, Weinidog, gynnig cyngor, cynhaliaeth, a chymorth ymarferol pe bai’r cyfle’n codi iddynt hwy, fel grwp o gyflenwyr, ddod at ei gilydd, gyda chwmni arall o bosibl? Yr ydym wedi clywed bod rhywfaint o sibrydion y gallai’r cwmni hwn fod ar werth. Pe bai hynny’n digwydd, a oes cymorth ymarferol y gallech ei gynnig i’r ffermwyr hyn er mwyn sicrhau y gallant ddiogelu’r adnodd gwerthfawr sy’n bodoli yn Dansco?

I know that you and your officials have been holding talks, not only with the company but with the group of producers who provide milk for Dansco. This is a serious situation; it should not exist. This is a company that is, and should be, a successful company. The market exists, the product is good, new contracts have recently been agreed and there are other contracts available. This is a matter of ensuring that the internal structures of administration and management within the company are sufficiently effective to ensure that the company exists for the future. Having looked at this in detail, and having discussed it with a number of people, I am convinced that the problem at present lies with the internal structures, not only of the company, but of the company as part of a larger group. I hope that you are able to offer us some light as to what you, as Minister, and your administration, are able to do.

News Releases