Thursday, February 10th, 2011
Dogfen PAC yn datgelu ymrwymiad y Toriaid-Dem Rhyddion i ddiweddu cymorthdaliadau yng Nghymru
Ymatebion i’r ymgynghori yn gwrthddweud honiadau’r Gweinidog
Cyhuddwyd clymblaid y Torïaid – Dem Rhyddion yn San Steffan o gamarwain cymunedau amaethyddol dros eu cynigion am ddyfodol taliadau uniongyrchol PAC. Dywedodd Gweinidog Amaeth Torïaidd y DG Jim Paice AS wrth Undeb Amaethwyr Cymru mai ‘ffwlbri llwyr’ oedd dweud fod llywodraeth San Steffan eisiau gweld gostyngiad a dileu taliadau PAC i ffermwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, dengys ymateb llywodraeth y DG i’r ymgynghoriad ar PAC eu bod yn mynd ati i lobio am derfyn i gymorthdaliadau i ffermwyr yng Nghymru.
Mae’r ddogfen a gafwyd gan Blaid Cymru wedi datgelu honiadau Jim Paice fel rhai camarweiniol, gan ddangos yn glir fod llywodraeth y DG wedi argymell gostyngiad, ac yn y pen draw, diwedd ar daliadau PAC yng Nghymru.
Mae Nerys Evans AC, ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, wedi galw ar i lywodraeth y DG ymddiheuro am gamarwain undebau a ffermwyr yng Nghymru, a thynnu’n ôl eu hymrwymiad i lethu cymunedau gwledig trwy gefnogi diwedd taliadau PAC.
Meddai Nerys Evans AC:
“Wedi gweld cyflwyniad y Toriaid-Dem Rhyddion i’r ymgynghoriad ar ddyfodol taliadau PAC, sydd yn amlygu’n blaen eu hymrwymiad i ostwng ac yn y diwedd ddileu cymhorthdal i ffermwyr yng Nghymru, rwy’n rhyfeddu bod Gweinidogion y DG wedi bod yn hawlio i’r gwrthwyneb wrth drafod gyda’r undebau.”
“Rwy’n gwybod fod ein Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC, wedi cymryd agwedd wahanol ac wedi bod yn llafar iawn nid yn unig am werth taliadau PAC i ffermwyr Cymru, ond hefyd am yr angen iddynt barhau.”
“Mae’r Blaid mewn llywodraeth wedi bod yn gadarn yn ein hymrwymiad i sefyll dros gymunedau gwledig. Yn anffodus, gan y Gweinidogion Torïaidd a Dem Rhyddfrydol y gair olaf ar lefel y DG, a thra’u bod hwy wedi bod yn dweud wrth yr undebau a’r ffermwyr yng Nghymru eu bod ar eu hochr, tydyn nhw ddim wedi celu eu hymrwymiad i weld diwedd ar daliadau PAC mewn trafodaethau gyda’r UE.”
Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd Is-Bwyllgor Gwledig y Cynulliad:
“Does fawr ddim amheuaeth fod ASau’r Torïaid a’r Dem Rhyddion wedi ymrwymo i ddiweddu taliadau uniongyrchol PAC i ffermwyr Cymru wrth archwilio cynnwys eu hymateb i’r UE. Mae’n agwedd naïf a chibddall fyddai’n cael effaith ddychrynllyd ar gymunedau gwledig yng Nghymru.”
“Rwy’n siŵr y bydd ffermwyr ledled Cymru yn rhannu fy mhryder, nid yn unig fod clymblaid y Toriaid-Dem Rhyddion yn ceisio dileu eu cymorth, ond maent wedi methu â bod yn agored am y cynnig hwnnw. Bydd cefnogaeth llywodraeth San Steffan i ostwng ac yn y pen draw, ddileu taliadau PAC, yn cael oblygiadau dychrynllyd i gymunedau gwledig.”
ENDS / DIWEDD
Nodiadau:
1. Medrwch gael copi llawn o ymateb llywodraeth y DG i’r ymgynghori ar daliadau PAC trwy ddilyn y ddolen isod:
http://www.defra.gov.uk/foodfarm/policy/capreform/documents/110128-uk-cap-response.pdf
2. Dywed paragraff 8 y ddogfen:
“Mae’r DG felly eisiau gweld PAC yn y dyfodol ar well mesurau Piler 2, gan gyflwyno lles amgylcheddol i’r cyhoedd. Mae angen i Biler 1 ddod yn fesur trosiannol, wrth i arfau i annog cystadleuaeth a lleihau dibyniaeth ffermwyr ar gymorthdaliadau gael eu cyflwyno a dod i rym.”
3. Dywed paragraff 9 y ddogfen:
“Mae’r DG felly yn gweld prif flaenoriaethau diwygio PAC fel a ganlyn: - Cyllideb PAC sydd wedi lleihau yn sylweddol ac ail-ganolbwyntio gan roi gwell gwerth am arian”
“Dylid gwella mesurau sydd yn gwella cystadleuaeth a lleihau dibyniaeth ar gymorthdaliadau.”
4. Dywed paragraff 10 y ddogfen:
“Dylai Dewis 3 roi mwy o bwyslais ar yr her yn y tymor byr a thrwy hynny fesurau ategol fyddai’n symbylu gwelliant tymor-hir yn natur sylfaenol gystadleuol amaeth yr UE fel y gall ffynnu yn well mewn dyfodol heb gymhorthdal.”
News Releases
- Tue May 1 2012
Plaid Cymru – Action to protect Welsh Dairy Industry is overdue - Wed April 25 2012
Politicians shell-shocked by military testing site response - Tue February 21 2012
Plaid Cymru politicians take lead in defending local newspapers - Wed February 1 2012
Records reveal Labour’s PFI blunder - Thu January 26 2012
The Labour party should Stand Up, Front Up and accept they got it wrong on PFI - Tue January 17 2012
Jonathan Edwards MP, Rhodri Glyn Thomas AM support calls to devolve broadcasting powers to Wales - Wed January 11 2012
Journal Column – 11th January 2012 - Tue January 10 2012
Plaid Cymru attacks County Council’s publicly funded electioneering - Mon January 9 2012
Assembly Member calls for flexibility in Heating Oil market - Sun January 8 2012
Plaid politicians blast inflation-busting car park charges – again - Wed December 21 2011
Assembly Member takes to the road for Meals on Wheels delivery - Thu December 15 2011
European Commission could boost Wales’ infrastructure - Wed December 14 2011
Journal Column – 14th December - Mon December 12 2011
Assembly Member backs campaign to make schools accessible to deaf children - Mon December 12 2011
‘First Class Postal Service in Carmarthenshire’ - Fri December 9 2011
Plaid Assembly Members meet with Palestinian Ambassador - Tue December 6 2011
Labour/Lib Dem Budget is irresponsible and will cost jobs - Wed November 30 2011
Rhodri speaks at Carmarthen Rally - Wed November 30 2011
Journal Column - Wed November 23 2011
Journal Column – 23rd November - News Release Archive -> ->