Rhodri Glyn Thomas AM / AC
Porthiant Newyddion RSS
Porthiant sydd Ar Gael
Datganiadau i'r Wasg Rhodri Glyn Thomas
Beth yw Porthiant RSS?
Mae ffeiliau RSS ("Really Simple Syndication") yn cynnwys disgrifiadau byr o restr o bethau: cofnodion dyddiadur, areithiau ac ati, a chânt eu fformatio er mwyn sicrhau bod rhaglenni cyfrifiadurol sy'n cysylltu â fersiwn llawn y cynnwys ar wefan yn gallu eu darllen. Darperir y wybodaeth hon fel ffeil o'r enw porthiant RSS, ffrwd RSS neu sianel RSS. Yn aml, defnyddir petryal oren sy'n cynnwys y llythrennau XML neu RSS fel cyswllt â phorthiant RSS safle.
Gallwch ddefnyddio rhaglen o'r enw darllenwr newyddion i storio lleoliadau porthiant RSS, a phob tro y bydd un yn cael ei diweddaru - gyda chofnodion dyddiadur neu areithiau newydd - gallwch weld yr hyn sy'n newydd yn hawdd. Mae'n golygu nad oes yn rhaid i chi droi at dudalennau ar y we er mwyn gweld a oes unrhyw beth newydd wedi ymddangos. Sharpreader neu RSS Bandit (y ddau yn rhaglenni am ddim) yw'r darllenwyr RSS poblogaidd ar gyfer Windows neu NetNewsWire Lite ar gyfer Macs. Mae Bloglines yn ddarllenwr RSS ar-lein. Mae FeedDemon yn un sy'n cynnwys mwy o nodweddion ac mae'n costio oddeutu £20.
