Mynd yn syth i'r brif ddewislen

Rhodri Glyn Thomas AM / AC

Cafodd y dudalen hon ei ddiweddaru ar Monday, 05 November 2007

Digwyddiadau Allweddol yn Natblygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r cysylltiadau isod yn agor tudalennau ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol Defnyddiwch eich botwm 'yn ôl' i ddychwelyd i'r dudalen hon.

Cefndir y Cynulliad

Ym mis Gorffennaf 1997, cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn, Llais dros Gymru, a ddisgrifiai ei chynigion ar gyfer datganoli yng Nghymru. Cafodd y cynigion hynny eu cadarnhau yn y refferendwm ar 18 Medi 1997.

Wedyn, pasiodd y Senedd Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, a drosglwyddodd bwerau a chyfrifoldebau datganoledig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Cynulliad ar 1 Gorffennaf 1999.

Ers hynny, mae amryw o ddeddfau Seneddol wedi rhoi pwerau newydd i’r Cynulliad.

Math newydd o Lywodraeth yng Nghymru

Mae’r Cynulliad yn penderfynu ar ei flaenoriaethau ac yn dosbarthu’r arian sy’n dod iddo gan y Trysorlys.

O fewn ei bwerau, mae’r Cynulliad yn datblygu ac yn gweithredu polisïau sy’n adlewyrchu anghenion penodol pobl Cymru. Mae penderfyniadau am y materion hyn yn cael eu gwneud gan wleidyddion sy’n atebol, trwy’r blwch pleidleisio, i etholwyr yng Nghymru.

Mae Cymru yn dal yn rhan o’r Deyrnas Unedig a bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelodau Seneddol o etholaethau Cymru yn cadw’u seddau yn San Steffan o hyd. Mae deddfau sy’n cael eu pasio yn Senedd San Steffan yn dal yn berthnasol i Gymru.

Sut cafodd y Cynulliad cyntaf ei ethol

Cafodd yr etholiadau i’r Cynulliad cyntaf eu cynnal ar 6 Mai 1999 a byddant yn cael eu cynnal bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ar Fai 1af 2003.

Mae gan y Cynulliad chwe deg o Aelodau etholedig ac mae gan bob etholwr ddwy bleidlais. Defnyddir y bleidlais gyntaf i ethol Aelod lleol neu etholaethol yn yr un ffordd ag yr etholir AS i Dy’r Cyffredin. Caiff deugain o Aelodau’r Cynulliad eu hethol fel hyn, un o bob etholaeth yng Nghymru.

Defnyddir yr ail bleidlais i ethol ugain o Aelodau ychwanegol, fesul rhanbarth, i sicrhau bod nifer y seddi sydd gan bob plaid wleidyddol yn adlewyrchu’r gyfran o bleidleisiau a fwriwyd drostynt. Yr enw ar y math hwn o gynrychiolaeth gyfrannol yw System Aelodau Ychwanegol. Mae yna bum rhanbarth etholiadol yn seiliedig ar ffiniau Etholaethau Senedd Ewrop a grewyd ym 1994, ac mae pob rhanbarth yn anfon pedwar aelod i’r Cynulliad.

Cyfarfod cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd cyfarfod llawn cyntaf hanesyddol y Cynulliad ddydd Mercher 12 Mai 1999, a chafodd Llywydd, Dirprwy Lywydd a Phrif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad eu hethol gan yr aelodau. (Yn ddiweddarach, dechreuwyd defnyddio’r term Prif Weinidog Cymru yn lle Prif Ysgrifennydd).

Pwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad

Mae gan y Cynulliad gryn bwer i ddatblygu a gweithredu polisïau mewn amrywiaeth o feysydd:

Beth mae hyn yn ei olygu?

Dyma enghreifftiau o’r penderfyniadau pwysig y gall y Cynulliad eu gwneud:

Sut mae’r Cynulliad yn gweithio

Mae fframweithiau a threfniadau’r Cynulliad wedi’u nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae’r prosesau manylach yn cael eu disgrifio yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad.

Y Llywydd

Y Llywydd yw Cadeirydd y Cynulliad ac mae’n gwneud swydd debyg i Lefarydd Ty^’r Cyffredin. Mae’n cael ei ethol gan y Cynulliad cyfan. Ar ôl ei ethol, bydd y Llywydd yn gwasanaethu’r Cynulliad heb ddangos ffafriaeth i unrhyw blaid. Mae yna hefyd Ddirprwy Lywydd a etholir yn yr un ffordd.

Mae’r Llywydd yn gyfrifol am:

Y Prif Weinidog a Gweinidogion y Cynulliad

Mae chwe deg aelod y Cynulliad yn dirprwyo eu pwerau gweithredol, (y gwaith o wneud a gweithredu penderfyniadau a deddfau) i’r Prif Weinidog, a etholir gan y Cynulliad cyfan ac sydd fel arfer felly’n cynrychioli’r blaid wleidyddol fwyaf.

Mae’r Prif Weinidog yn ei dro yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am gyflawni’r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion y Cynulliad, sy’n ffurfio’r Cabinet. Y Cabinet sy’n gwneud llawer o benderfyniadau’r Cynulliad o ddydd i ddydd, ac mae’r Gweinidogion yn gyfrifol am wahanol feysydd pwnc – iechyd neu addysg, er enghraifft. Mae’r Cabinet yn atebol i weddill y Cynulliad, sy’n archwilio pob penderfyniad a gweithred a wneir ganddo.

Gwaith y Pwyllgorau

Pwyllgorau Pwnc

Gall aelodau o bob plaid fynegi eu barn ar sut y mae’r Cynulliad yn gweithredu drwy Bwyllgorau Pwnc, fel y rhai ar gyfer Addysg a Dysgu Gydol Oes, Diwylliant, yr Amgylchedd a Datblygu Economaidd. Mae’r pwyllgorau hyn yn datblygu polisïau ac yn archwilio’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud. Etholir Aelodau ar gyfer y pwyllgorau hyn mewn modd sy’n adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad.

Pwyllgorau Rhanbarth

Mae’r Pwyllgorau Rhanbarth yn ystyried anghenion a buddiannau eu hardaloedd ac maent yn gyfrwng i roi gwybod i’r Cynulliad llawn a’r Pwyllgorau Pwnc am faterion lleol. Mae yna bedwar Pwyllgor Rhanbarth, sy’n cynnwys aelodau etholaethol a rhanbarthol. Mae’r rhan fwyaf o’r pwyllgorau yn cwrdd yn gyhoeddus ac mae nifer ohonynt yn cael eu darlledu: ar deledu digidol (S4C2, BBC Parliament) ac ar y rhyngrwyd – www.gweddarlledu.cymru.gov.uk.

Cyfarfodydd Llawn

Mae cyfarfodydd llawn y Cynulliad a gynhelir ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn agored i’r cyhoedd ac maent yn cael eu darlledu. Bydd y Llywydd yn dosbarthu hysbysiad busnes ymlaen llaw ar gyfer pob cyfarfod llawn, a bydd yr eitemau’n cael eu trafod yn y drefn y maent yn ymddangos ar yr hysbysiad.

Yn ystod pob wythnos y bydd cyfarfodydd llawn y Cynulliad yn cael eu cynnal, caiff o leiaf 30 munud eu neilltuo ar gyfer cwestiynau llafar i’r Prif Weinidog. Mae pob Gweinidog hefyd yn ymateb i gwestiynau llafar o leiaf unwaith bob pedair wythnos, a gall unrhyw aelod arall roi cynnig neu bwnc gerbron ar gyfer trafodaeth fer cyn diwedd cyfarfod llawn.

Gyda chaniatâd ymlaen llaw gan y Llywydd, gall unrhyw aelod gynnig bod y Cynulliad yn ystyried ar unwaith fater brys sydd o bwys cyhoeddus mewn cyfarfod llawn.

Mae amser yn cael ei neilltuo hefyd, o fewn cylch cyfarfodydd llawn blynyddol y Cynulliad, i ystyried categorïau arbennig o waith y Cynulliad, megis:

Darlledu trafodion y Cynulliad

Mewn partneriaeth gyda'r BBC, HTV ac S4C, mae'r Cynulliad wedi sefydlu Cwmni Darlledu Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn darlledu trafodaethau cyhoeddus y Cynulliad. Mae pob un Cyfarfod Llawn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y sianel deledu digidol S4C 2. Gallwch hefyd wylio cyfarfodydd byw ac archif ar eich cyfrifiadur drwy gyfrwng y we fyd eang - ewch i www.gweddarlledu.cymru.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhodri Glyn Thomas AM / AC - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr