Saturday, February 5th, 2011
“Byddai’r Torïaid a’r Dem Rhyddion yn difetha Cymru wledig” medd y Blaid
Yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd Gwladol y DG dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dweud fod llywodraeth Geidwadol a Democrataidd Rhyddfrydol San Steffan am leihau taliadau uniongyrchol i ffermwyr dan y Polisi Amaethyddol Cyffredinol, mae gwleidyddion lleol Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas AC a Jonathan Edwards AS wedi rhybuddio ffermwyr fod y Torïaid a’r Dem Rhyddion yn fodlon gweld Cymru wledig a’r economi wledig yn deilchion gyda’u hymdrechion i weld lladd-dai a chynhyrchwyr da byw yn talu mwy am archwiliadau hylendid cig costus.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar wedi cau eu hymgynghoriad ar ‘adennill costau llawn’ am archwiliadau lladd-dai sydd yn costio oddeutu £32miliwn trwy’r DG. O ganlyniad, mae undebau ffermwyr ledled y DG wedi condemnio’r symudiad ac yn rhybuddio y byddai’n rhaid i lawer o ladd-dai yng Nghymru gau.
Meddai Rhodri Glyn Thomas:
“Rwy’n ymwybodol fod Trysorlys y DG wedi gofyn am gyflwyniad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi manylion am sut y gallai’r corff arbed 25% – 40% o’i gyllideb. Mae adennill costau llawn am archwiliadau hylendid cig yn ganlyniad uniongyrchol i obsesiwn y ceidwadwyr a’r Dem Rhyddion â thorri cyllidebau mewn gwasanaethau hanfodol.
“Yn aml iawn, mae lladd-dai yng Nghymru yn annibynnol ac yn llai o faint o’u cymharu â’r rhai sy’n cael eu rhedeg gan archfarchnadoedd mawr. Byddai archwiliadau costus a biwrocrataidd sydd eisoes yn rhoi baich ar eu gweithrediadau o raid yn gadael llawer o ladd-dai Cymru yn aneconomaidd.
“Mae lladd-dai Cymru yn chwarae rhan bwysig i wella ansawdd cynnyrch Cymreig trwy leihau ‘milltiroedd bwyd’ o’r fferm i’r fforc.
“Wrth i ffermwyr ymdrechu i ymdopi â chostau cynyddol tanwydd, porthiant a gwrtaith; bygythiad colli taliadau uniongyrchol ac yn awr y posibilrwydd o orfod ysgwyddo baich ariannol archwiliadau, mae’r Ceidwadwyr a’r Dem Rhyddion yn hollol ddigywilydd yn ei hymosodiad ar ffermwyr Cymru ac economi Cymru wledig
“Mae ymosodiad uniongyrchol ar y gymuned amaethyddol gan lywodraeth San Steffan bob wythnos. Rydym yn ffodus i gael ein Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, yn amddiffyn buddiannau ffermwyr Cymreig ac yn dangos yn glir mai dim ond Plaid Cymru wnaiff sefyll dros ein diwydiant amaethyddol.”
Ychwanegodd Jonathan Edwards:
“Trwy dorri’r cyllid yn uniongyrchol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd, mae’r Ceidwadwyr a’r Dem Rhyddion yn ceisio celu eu hymosodiad diweddaraf ar ddiwydiant amaethyddol Cymru.
“Byddai cau lladd-dai yn ddiamau yn arwain at gael yr archfarchnadoedd yn tra-arglwyddiaethu ar y farchnad ac yn gadael ffermwyr yn gorfod ymdopi â mwy fyth o brisiau annheg am eu cynnyrch.
“Cyflwynodd Grŵp Seneddol Plaid Cymru Gynnig Cynnar yn y Dydd yn y Senedd yn galw ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd i ail-ystyried y cynllun hwn fyddai’n chwalu’r Gymru wledig yn deilchion.
“Mae hyn unwaith eto yn profi nad oes modd ymddiried yn y Torïaid i amddiffyn cymunedau gwledig.”
ENDS/DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion – Dywed Cynnig Cynnar yn y Dydd Plaid Cymru:
Mynega’r tŷ hwn ei bryder am yr effaith ar ladd-dai bychain a chanolig yng Nghymru a gâi cynlluniau’r Asiantaeth Safonau Bwyd am adennill cost llawn camau rheoli hylendid cig mewn lladd-dai, y rhybuddia undebau’r amaethwyr yng Nghymru a allai gau o ganlyniad i’r tâl hwn; noda’r amcangyfrif fod dros 50% o wartheg, 70% o ddefaid, 25% o foch a 40% o ddofednod yn cael eu lladd mewn lladd-dai annibynnol, bychan a chanolig eu maint; cofia rôl allwedd lladd-dai bychain a chanolig adeg Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 lle lleihaodd lladd-dai lleol lawer ar y perygl y byddai’r clwy yn lledaenu trwy ofalu na fyddai’n rhaid i anifeiliaid deithio gryn bellter i gael eu lladd; cefnoga gig a fegir ac a ledir yn lleol o siopau annibynnol sydd â nifer isel o filltiroedd teithio ac sy’n cadw busnesau bychain yn broffidiol, a geilw ar i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ail-ystyried y cynlluniau hyn i godi prisiau ar ladd-dai.
News Releases
- Tue May 1 2012
Plaid Cymru – Action to protect Welsh Dairy Industry is overdue - Wed April 25 2012
Politicians shell-shocked by military testing site response - Tue February 21 2012
Plaid Cymru politicians take lead in defending local newspapers - Wed February 1 2012
Records reveal Labour’s PFI blunder - Thu January 26 2012
The Labour party should Stand Up, Front Up and accept they got it wrong on PFI - Tue January 17 2012
Jonathan Edwards MP, Rhodri Glyn Thomas AM support calls to devolve broadcasting powers to Wales - Wed January 11 2012
Journal Column – 11th January 2012 - Tue January 10 2012
Plaid Cymru attacks County Council’s publicly funded electioneering - Mon January 9 2012
Assembly Member calls for flexibility in Heating Oil market - Sun January 8 2012
Plaid politicians blast inflation-busting car park charges – again - Wed December 21 2011
Assembly Member takes to the road for Meals on Wheels delivery - Thu December 15 2011
European Commission could boost Wales’ infrastructure - Wed December 14 2011
Journal Column – 14th December - Mon December 12 2011
Assembly Member backs campaign to make schools accessible to deaf children - Mon December 12 2011
‘First Class Postal Service in Carmarthenshire’ - Fri December 9 2011
Plaid Assembly Members meet with Palestinian Ambassador - Tue December 6 2011
Labour/Lib Dem Budget is irresponsible and will cost jobs - Wed November 30 2011
Rhodri speaks at Carmarthen Rally - Wed November 30 2011
Journal Column - Wed November 23 2011
Journal Column – 23rd November - News Release Archive -> ->